‘Yn dilyn cyhoeddiadau blaenorol, a chan fod heintiau COVID-19 yn dal i ledaenu, mae’r Prif Swyddog Deintyddol, ar ran Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau bod cleifion, a thimau deintyddol, yn cael eu gwarchod rhag y risg o gael eu heintio, a chydymffurfio a’r mesurau ynghylch cadw pellter cymdeithasol a chynorthwyo eraill i wneud yr un modd, er mwyn cyfrannu at leihau’r risg o drosglwyddo’r haint.
O hyn ymlaen, mae cyfraniad y gwasanaethau deintyddol yn hanfodol yn yr ymdrech genedlaethol i leihau lledaeniad COVID-19 a’i effaith ar y boblogaeth. Mae triniaethau deintyddol arferol, sydd eisoes wedi eu trefnu, wedi cael ei hatal dos dro. Mae’r holl weithdrefnau cynhyrchu Aerosol (AGP) wedi eu hatal, ac ni fydd unrhyw aelod o dimau deintyddol sy’n feichiog neu heb eu llwyr imiwneiddio yn cael darparu na chynorthwyo gyda gofal uniongyrchol i gleifion na chyflawni asesiadau.
Bydd deintyddfeydd a gwasanaethau yn dal yn agored (ar rota leol a chyda llai o staff) a gwneir popeth i flaenoriaethu, cynghori a chysuro cleifion sydd â phroblem ddeintyddol dros y ffôn. Bydd hynny’n arbed cleifion rhag gorfod teithio a dod i ddeintyddfa neu glinig, gan achosi cyn lleied ag y bo modd o gyswllt â phobl â symptomau neu rai sydd wedi eu heintio neu’n ansymptomatig. Gall deintyddion ddarparu presgripsiynau-o-bell, cyffuriau lladd poen neu wrthficrobiaid.
Dylai unrhyw driniaeth ddeintyddol gael ei gohirio ar hyn o bryd, pe bai modd gwneud hynny. Pe ba’n rhaid cynnal asesiad o rywun yn y cnawd, fel petai, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau grymus safonol (PPE) ac ni fyddwn ond yn gweld clefion sy’n ansymptomatig. Mae’n rhaid i ni geisio gwneud cyn lleied ag y bo modd o asesiadau wyneb yn wyneb a thriniaethau deintyddol (heb fod yn rhai AGP) a hynny ddim ond i gwrdd â’r angen am driniaeth frys wirioneddol.
Bydd cleifion a gaiff eu profi, mewn ymgynghoriad dros y ffôn, i fod ag angen triniaeth frys neu argyfyngus na ellir ei gohirio ac sydd ag angen gweithdrefnau AGP, yn cael eu cyfeirio at Ganolfan ddynodedig ein Bwrdd Iechyd ar gyfer gofal deintyddol Brys ac Argyfyngus drwy system gofrestru leol ar gyfer asesu a gofal – ond dim ond os ydi hynny’n wirioneddol angenrheidiol. Ni ddylai claf fynd i bractis na chanolfan argyfwng ei hun heb i drefniant fod wedi cael ei wneud, a chytuno arno, ymlaen llaw ar gyfer asesu/triniaeth.’